Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 8 Mawrth 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
13:30 - 15:20 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Darren Millar Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr Maire Doran, Posture and Mobility Service, Betsi Cadwaladr University Health Board Gareth Evans, Betsi Cadwaladr University Health Boa Helen Hortop, Artificial Limb and Appliances Service, Cardiff and Vale University Health Board Fiona Jenkins, Cardiff and Vale University Health Board Andrew Lloyd, Artificial Limb and Appliances Service, Cardiff and Vale University Health Board Daniel Phillips, All Wales Posture and Mobility Service Partnership Board Dr Cerilan Rogers, Welsh Health Specialised Services CommitteePwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Dafydd (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Victoria Paris (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones a Lynne Neagle. Nid oedd dim dirprwyon.
2. Ymchwiliad undydd i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - tystiolaeth lafar
Safbwynt darparwr y GIG
2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.
2.2 Cytunodd Dr Doran i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn ar gais y Pwyllgor:
· Diffiniad o ‘atgyweirio’ (fel y cyfeiriwyd ato yn ystod y drafodaeth ynghylch llwyddiant yr atgyweiriwr cymeradwy o ran cyrraedd targedau);
· Ei barn ynghylch y llwybr ar gyfer datblygu gwasanaethau yng ngogledd Cymru dros y 12 mis nesaf;
· Copi o’r llythyr dyrannu a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar ôl gwrthod cais gwasanaeth gogledd Cymru am adnoddau i gefnogi gwasanaethau i oedolion.
2.3 Cytunodd Mr Lloyd i ddarparu copi drafft o’r broses gyfeirio newydd sy’n cael ei datblygu gan Wasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar de Cymru.
2.4 Cytunodd y tystion i gyflwyno eu barn ynghylch y tri maes allweddol lle mae angen cynnydd pellach mewn gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.
Safbwynt y cynllunydd
2.5 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.
2.6 Cytunodd Dr Rogers i ddarparu gwybodaeth bellach er mwyn egluro’r amserlen o ran cynllunio a darparu manyleb gwasanaethau o safbwynt Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru / Bwrdd Partneriaeth Gwasanaeth Symudedd ac Ystum Corff Cymru Gyfan.
3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4
3.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4.
4. Ymchwiliad undydd i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a oedd wedi’i chael ynghylch gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru a chytunodd y dylai papur yn nodi’r themâu allweddol o’r dystiolaeth gael ei baratoi ar gyfer ei ystyried.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.